Meysydd dan sylw

Sylwadau:

Digonolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer cyllidebau ysgolion, yng nghyd-destun cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus eraill ac adnoddau sydd ar gael

-          Mae cyllideb ysgolion Caerdydd yn uwch nag Asesiad wedi’i Seilio ar Ddangosyddion ar gyfer ysgolion, ac mae wedi bod felly ers blynyddoedd lawer, a allai awgrymu bod y cyllid yn annigonol.

-          Mae Caerdydd yn cynrychioli cyfran sylweddol o'r twf cyffredinol yng nghyllidebau ysgolion dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond dim ond drwy doriadau difrifol i wasanaethau eraill y cyflawnwyd hyn ac nid o ganlyniad i gyllid ychwanegol drwy'r Grant Cynnal Ardrethi.

-          Mae'r grant ôl-16 yn annigonol gyda llawer o ysgolion yn rhoi cymhorthdal ar gyfer darpariaeth ôl-16 gyda chyllid cyn-16.

-          Mae ysgolion uwchradd yn arbennig yn wynebu heriau ariannol sylweddol, a allai awgrymu bod y cyllid yn annigonol.

-          Mae cyllid grant hollbwysig wedi bod yn destun toriadau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan leihau lefel y cyllid i ysgolion ymhellach.

-          Nid yw cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei gydnabod yn ddigonol, yn enwedig yng nghyd-destun twf sylweddol mewn angen a newidiadau mewn deddfwriaeth.

Er enghraifft, mae gwariant Caerdydd mewn perthynas â chymorth i ddisgyblion mewn lleoliadau prif ffrwd ag anghenion cymhleth, wedi cynyddu'n aruthrol dros y chwe blynedd diwethaf, gyda'r gost bron wedi treblu a bellach yn dod i gyfanswm o tua £10m. Nid yw'r Grant Cynnal Ardrethi wedi cynyddu er mwyn cydnabod pwysau fel hyn.

 

I ba raddau y mae lefel y ddarpariaeth ar gyfer cyllidebau ysgolion yn ategu neu'n cyfyngu ar gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru

-          Mae'r polisi ynghylch Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig/Teithwyr yn awgrymu bod gwrthdaro rhwng amcanion Llywodraeth Cymru a'r cyllid sydd ar gael i gefnogi'r amcan hwnnw.

-          Mae'r ffordd y mae'r Grant Datblygu Disgyblion wedi'i ddosbarthu yn y flwyddyn ariannol bresennol yn creu gwahaniaeth rhwng y cyllid a'r disgyblion sydd ei angen.

Byddai'n awgrymu nad yw hyn yn cwrdd ag amcanion polisi o ran disgyblion difreintiedig.

-          Rôl y consortia rhanbarthol wrth ddosbarthu a rheoli arian grant, yn enwedig wrth ystyried lefel y grantiau a gedwir gan gonsortia rhanbarthol a pheidio â chael eu trosglwyddo i awdurdodau lleol i'w thargedu mor effeithiol â phosibl.

-          Nid yw amcanion polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu hadlewyrchu'n ddigonol, yn enwedig o ystyried y twf sylweddol yn y galw yn y maes hwn.

-          Y ffordd nad yw cyfraniadau awdurdodau lleol i gonsortia rhanbarthol yn cydnabod yn ddigonol yr angen o fewn pob awdurdod unigol.

Er enghraifft, mae cyfraniad y Pwyllgor Cymdeithasau Canolog yn seiliedig ar Asesiad Wedi’i Seilio ar Ddangosyddion yr ysgol, yn hytrach na gyrrwr cost megis nifer yr ysgolion. Felly, mae awdurdodau unigol, i bob pwrpas, yn sybsideiddio'r gwasanaethau a dderbynnir gan awdurdodau eraill.

-          Mae angen adolygu'r ffordd y caiff cyllid ôl-16 ei ddosbarthu, yn enwedig ailystyried y rhaniad rhwng darpariaeth mewn ysgolion ac Addysg Bellach, sy'n arwain at amrywiadau sylweddol o flwyddyn i flwyddyn.

Y berthynas, y cydbwysedd a'r tryloywder rhwng gwahanol ffynonellau cyllid ysgolion, gan gynnwys cyllidebau craidd a chyllid wedi'i neilltuo

-          Mae yna ddiffyg tryloywder ynghylch grantiau a drosglwyddir i gonsortia rhanbarthol i'w dosbarthu.

Caiff swm sylweddol ei gadw neu'i drosglwyddo'n uniongyrchol i ysgolion unigol heb i'r Awdurdod Lleol gael dealltwriaeth o'r arian sy'n cael ei ddosbarthu.

-          Mae cyfran sylweddol o'r cyllid yn cael ei neilltuo, gan gyfyngu ar yr hyblygrwydd wrth ei ddefnyddio ac nid yw'n galluogi i'r cyllid gael ei dargedu'n lleol at y blaenoriaethau cywir.

-          Mae problem bosibl rhwng y cydbwysedd grantiau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.

Caiff cyfran sylweddol ei sianelu drwy ysgolion cynradd ac mae cyfran fawr o'r grantiau hyn wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer. Mae angen ystyried a yw bellach yn briodol ymgorffori'r rhain yng nghyllidebau refeniw ysgolion.

 

Y fformiwla cyllido Llywodraeth Leol a'r pwyslais a roddir ar addysg a chyllidebau ysgolion yn benodol o fewn y setliad Llywodraeth Leol

-          Mae angen ystyried a yw'r sbardunau cost fwyaf priodol yn cael eu defnyddio i ddosbarthu cyllid i ysgolion ai peidio.

Er enghraifft, a ddylai nifer yr ysgolion fod yn ystyriaeth yn ogystal â nifer y disgyblion o fewn ffin awdurdod lleol.

-          Mae diffyg cydnabyddiaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol a lefel angen gyffredinol yn y fformiwla.

Mae hwn yn yrrwr cost arbennig o sylweddol sy'n effeithio ar rai awdurdodau llawer mwy nag eraill.

 

Trosolwg gan Lywodraeth Cymru o'r modd y mae Awdurdodau Lleol yn pennu cyllidebau ysgolion unigol, gan gynnwys, er enghraifft, y pwyslais a roddir ar ffactorau fel proffil oedran disgyblion, amddifadedd, iaith y ddarpariaeth, nifer y disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a darpariaeth cyn oed gorfodol

-          Dylid rhoi mwy o reolaeth leol i bob awdurdod er mwyn iddo ddosbarthu ei gyllid ar gyfer ysgolion.

-          Er enghraifft, dylid llacio'r rheol 70% (ar gyfer dosbarthu cyllid ar sail niferoedd disgyblion), gan alluogi Awdurdodau Lleol i ddosbarthu cyllid fel sy’n briodol.

-          Dylai hyn leihau'r amrywiadau blynyddol mewn cyllid ysgolion unigol sy'n digwydd bob blwyddyn, dim ond oherwydd y gall y niferoedd newid ychydig.

Mewn rhai achosion, mae ysgolion sydd â niferoedd sefydlog yn cael gostyngiadau yn eu cyllideb dim ond am fod ysgolion eraill wedi cynyddu eu niferoedd.

-          Yn hytrach na 70% ar niferoedd disgyblion, efallai y dylid rhoi mwy o bwyslais ar Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

Cynnydd a datblygiadau ers adolygiadau pwyllgorau blaenorol y Cynulliad (er enghraifft, rhai'r Pwyllgor Menter a Dysgu yn y Trydydd Cynulliad)

-          Mae lefel y neilltuo yn parhau i fod yn uchel, er bod galwadau dro ar ôl tro am i ragor o gyllid gael ei drosglwyddo drwy'r Grant Cynnal Ardrethi i awdurdodau lleol unigol.

-          Nid oes digon o wybodaeth gyllidebol tymor canolig i allu hwyluso cynllunio ariannol tymor canolig cadarn ar gyfer ysgolion.

Roedd y penderfyniad diweddar i 'rewi' ffigurau cyllid Grant Datblygu Disgyblion yn rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd yr oedd ei angen yn ddirfawr ar ysgolion pe bai mwy o ystyriaeth yn cael ei roi i ddarparu cyllidebau tair blynedd i ysgolion er mwyn galluogi cynllunio ariannol mwy cadarn ac effeithiol ar gyfer y tymor canolig.

Y cymariaethau sydd ar gael a'r defnydd o gymariaethau rhwng cyllid addysg a chyllidebau ysgolion yng Nghymru a gwledydd eraill y DU

-          Mae gwybodaeth feincnodi yng Nghymru yn ddefnyddiol, ond gall cymariaethau fod yn anodd oherwydd anghysondebau o ran casglu/dosbarthu data rhwng awdurdodau, yn ogystal â'r gwahaniaethau daearyddol rhwng Awdurdodau Lleol sy'n gwneud cymariaethau'n llai gwerthfawr.

-          Yn ogystal, nid oes digon o gydnabyddiaeth o'r gwahanol gyfrifoldebau y mae ysgol ffydd, er enghraifft, yn meddu arnynt o'u cymharu ag ysgolion cymunedol.

-          Yn ansicr i ba raddau y mae'n bosibl cymharu â Lloegr, yng nghyd-destun twf academïau a'r modelau gweithredu gwahanol.